Helo!
Enw fi ydi Lowri-Ellen, a dw i yn ffotograffydd priodasau o Bangor yn Gogledd Cymru.
Dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau pobl yn y ffordd fwya’ naturiol, onest a ddi-lol a bosib. Dwi ddim am neud i chi neud poses awkward – yn lle, dwi’n canolbwyntio ar yr momentau unigryw sy’n digwydd rhwng y bobl sy’n bwysig i chi.
Y chwerthin hefo ffrindiau hen, y dagrau annisgwyl gan Dad, yr hygs gan Nain, ag yr momentau bach neith feddwl yr byd mewn blynyddoedd i ddod. Dwi wedi bod yn tynnu lluniau priodasau ers dros ddegawd, ac mae’n steil i wedi datblygu mewn ffordd chilled a ddogfennol drost yr blynyddoedd. Ar ôl colli aelodau agos o’n teulu, dwi wir yn gwerthfawrogi pa mor bwysig ydi tynnu lluniau, ag yr pobol sydd yn yr lluniau, ag dwi’n rhoi fy nghalon i mewn i bob priodas dwi’n neud.
Pan dwi ddim yn gweithio, dwi’n fam briod i ddau o fechgyn bach wyllt, ag dw i’n byw bywyd bywiog llawn ‘school runs’, trips i’r cae swings, a pigo fyny tegannau bob awr! Dwi hefyd wrth fy modd yn mynd i gigs, yn byta’ tatws mewn unrhyw ffurf (roasties fel arfer), ac yn gwylio cyfresi da ar y soffa os dwi heb disgyn i gysgu yn barod!
Prisiau
Pris pecyn priodas diwrnod llawn ydi £2,000, ac mae hyna yn cynnwys:
800+ o luniau wedi ei golygu
Galeri ar yr we yn cynnwys gyd or lluniau
Rhagolwg o luniau o fewn 2–3 diwrnod ar ôl y briodas
Cyfarfod cyn y briodas i drafod pob dim oflaen llaw
Mai’n posib ychwanegu ail ffotograffydd i’r pecyn diwrnod cyfa’ hefyd.
Cysylltwch hefo fi os yda chi isho llai o oriau, neu os ‘da chi’n gael priodas llai.
Teuluoedd a Babi Newydd?
Er fy mod i’n arbenigo mewn priodasau, dw i hefyd wrth fy modd yn tynnu lluniau teuluoedd a babis newydd hefyd.
Os ydych chi’n chwilio am luniau naturiol i ddal eiliadau arbennig gyda’ch rhai bach neu’r teulu cyfan, swni wrth fy modd yn helpu.
Cysylltwch â fi i ofyn am fy pamffled lluniau teulu – yn fana gewchi’r holl wybodaeth am sesiynau, argaeledd, prisiau ag ati.
Portffolio
Mae pob priodas yn unigryw, ac dw i wrth fy modd hefo’r straeon sydd yn dod hefo bob un. Yn fy portfolio, cerwch drosodd i’r tudalen Portfolio i gael cip-olwg ar fy ngwaith.
Diolch/Cysylltu
Diolch o galon am cymyd yr amser i sbio ar yr wefan – mae o’n meddwl y byd! Os yda’ chi’n chwilio am ffotograffydd sy’n gweld y gwerth yn y pethau bychain ac yn ‘neud i chi deimlo’n cool braf oflaen y camera, swni wrth fy modd bod yn rhan o’ch diwrnod mawr!
Os yda chi’n meddwl fydda ni yn ffit da, ag fedra’ ni gweithio’n dda hefo’n gilydd, swni wrth fy modd yn clywed am trefniadau eich priodas! Cysylltwch hefo fi trwy’r tudalen ‘Contact’ ag mi wnai ateb cyn gynta’ fedra i!